Back to home page To Welsh language site
House prices
Registering your land
E-conveyancing
Education & training
Your information rights
Practice
Property information
 

Preifatrwydd

Mae Cofrestrfa Tir EM wedi creu'r datganiad preifatrwydd hwn er mwyn dangos ein hymrwymiad cadarn i gynnal diogelwch a chyfrinachedd gwybodaeth bersonol a gesglir ar ein Gwefan. Mae'r canlynol yn egluro ein harferion casglu a lledaenu gwybodaeth ar gyfer y wefan hon:

Gall ein gwefan ddefnyddio 'cookies' i ddarparu cynnwys fydd o ddiddordeb penodol i chi ac at ddibenion eraill

Efallai y bydd ffurflenni ar ein gwefan yn gofyn i ddefnyddwyr roi gwybodaeth gysylltu i ni (e.e. eu henw a'u cyfeiriad e-bost). Defnyddir y wybodaeth hon i gysylltu â'r ymwelydd pan fo angen. Ar gais, gall defnyddwyr weld y manylion sydd gennym amdanynt a gofyn i ni eu diweddaru, eu cywiro neu eu dileu. Rydym yn gobeithio rhoi'r gallu i chi wneud hyn yn y dyfodol agos.

Mae'r wefan hon yn cynnwys cysylltau i safleoedd eraill. Nid yw Cofrestrfa Tir EM yn gyfrifol am arferion preifatrwydd na chynnwys gwefannau o'r fath.

Mae ein gwefan yn defnyddio ffurflenni i gwsmeriaid ofyn am wybodaeth, cynhyrchion, a gwasanaethau, i roi atborth ayb. Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gysylltu'r ymwelydd (fel eu cyfeiriad e-bost), a gwybodaeth ariannol (fel rhif eu cyfrif banc neu gerdyn credyd). Defnyddir gwybodaeth gysylltu o'r ffurflen archebu i anfon archebion at gwsmeriaid. Gall gwybodaeth gysylltu'r cwsmer gael ei defnyddio i gysylltu â'r ymwelydd pan fo angen. Gall defnyddwyr ddewis peidio â derbyn rhagor o wybodaeth; gweler yr adran dewis/eithrio isod. Defnyddir gwybodaeth ariannol a gasglwyd i anfonebu'r defnyddiwr am gynhyrchion a gwasanaethau. Cesglir dynodwyr unigryw (fel cyfeiriadau e-bost) gan ymwelwyr y Wefan er mwyn adnabod y defnyddiwr ac fe'u defnyddir fel rhifau cyfrif yn ein system gofnodion.

Gall ein harolygon ar-lein ofyn i ymwelwyr am wybodaeth gysylltu (fel eu cyfeiriad e-bost). Defnyddir gwybodaeth gysylltu'r cwsmer i gysylltu â'r ymwelydd pan fo angen. Gall defnyddwyr ddewis peidio â derbyn rhagor o wybodaeth; gweler yr adran dewis/eithrio isod.

Diogelwch

Mae gan y wefan hon fesurau diogelwch i amddiffyn yn erbyn colli, camddefnyddio a newid y wybodaeth sydd o dan ein rheolaeth. Mae'r rhain yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i gronfa ddata ddiogel sy'n cynnwys data personol. Mae'r gronfa ddata wedi'i lleoli oddi ar y prif weinyddwr ac ni ellir cael mynediad uniongyrchol ati.

Dewis/eithrio

Mae ein gwefan yn rhoi'r cyfle i ddefnyddwyr eithrio o dderbyn negeseuon gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth am yr ymwelydd.

Mae'r wefan hon yn rhoi'r dewisiadau canlynol i'r defnyddwyr ar gyfer dileu eu gwybodaeth o'n cronfa ddata, neu beidio â derbyn negeseuon gennym yn y dyfodol neu beidio â derbyn ein gwasanaeth.

  1. e-bost privacy@landreg.gov.uk
  2. anfonwch lythyrau i'r cyfeiriad isod:
    Gwefeistr yr Asiantaeth
    Cofrestrfa Tir EM
    32 Lincoln's Inn Fields
    Llundain
    WC2A 3PH

Cywiro/diweddaru

Mae'r wefan hon yn rhoi'r dewisiadau canlynol i ddefnyddwyr sydd am newid ac addasu'r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol.

  1. e-bost privacy@landreg.gov.uk
  2. anfonwch lythyrau i'r cyfeiriad isod:
    Gwefeistr yr Asiantaeth
    Cofrestrfa Tir EM
    32 Lincoln's Inn Fields
    Llundain
    WC2A 3PH

Cysylltu â'r Wefan

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, arferion y wefan hon, neu eich cysylltiad â'r Wefan hon, gallwch gysylltu â

Gwefeistr yr Asiantaeth
Cofrestrfa Tir EM
32 Lincoln's Inn Fields
Llundain
WC2A 3PH

webmaster@landreg.gov.uk