Land Registry Back to home page To Welsh language site  


contact us
| navigation map

 
  Land Registry
Search
Search
House prices
Registering your land
E-conveyancing
Education & training
Your information rights
Practice
Property information
E-services
Business e-services
Find a property
Mortgage e-signature
Land Registry Direct

Add value products
Publication schemes
 

HYSBYSIAD PENODOL YNGHYLCH DOGFENNAU SYDD AR GAEL AR Y WEFAN HON:

Ni ddylid copïo nac aildrosglwyddo unrhyw ddogfen, data, testun, logo, graffeg, sain neu ddelwedd o'r Wefan hon oni bai fod Cofrestrfa Tir EM wedi caniatáu hynny. Gellir gwneud ceisiadau am ddefnydd o'r fath drwye-bostio copyright@landreg.gov.uk.

(1) Mae Dogfennau'r gweinyddwr hwn er gwybodaeth ac at ddibenion anfasnachol neu bersonol yn unig.

(2) Nid yw'r dogfennau a nodwyd uchod yn cynnwys dyluniad neu gynllun Gwefan Cofrestrfa Tir EM. Ni ellir copïo neu ddyblygu elfennau o Wefan Cofrestrfa Tir EM yn gyfan neu'n rhannol.

Ni fydd Cofrestrfa Tir EM a/neu ei chyflenwyr perthnasol yn atebol o gwbl am unrhyw niwed arbennig, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol neu unrhyw niwed o gwbl sy'n codi o golli defnydd, data neu elw, boed mewn gweithred contract, esgeulustod neu weithred gamweddus arall, o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad â defnydd y wybodaeth neu berfformiad y wybodaeth sydd ar gael o'r gweinyddwr hwn. Gallai dogfennau a graffeg cysylltiedig a gyhoeddir ar y gweinyddwr hwn gynnwys camgymeriadau technegol neu gamgymeriadau argraffyddol. Gwneir newidiadau i'r wybodaeth yma'n rheolaidd. Gall Cofrestrfa Tir EM a/neu ei chyflenwyr perthnasol wneud gwelliannau a/neu newidiadau i'r cynnyrch/cynhyrchion a/neu'r rhaglen(ni) a ddisgrifiwyd yma ar unrhyw adeg.

Hysbysiadau yn ymwneud â meddalwedd, dogfennau a gwasanaethau ar y Wefan hon. Ni fydd Cofrestrfa Tir EM a/neu ei chyflenwyr perthnasol yn atebol o gwbl am unrhyw niwed arbennig, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol neu unrhyw niwed o gwbl sy'n codi o golli defnydd, data neu elw, boed mewn gweithred contract, esgeulustod neu weithred gamweddus arall, o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad â defnydd y feddalwedd neu berfformiad y feddalwedd, dogfennau, darparu neu fethu darparu gwasanaethau, neu wybodaeth sydd ar gael o'r gweinyddwr hwn. Hysbysiadau a threfniadau ar gyfer gwneud honiadau ynglyn â thorri hawlfraint

Cysylltau i wefannau trydydd parti: Bydd y cysylltau yn y rhan hon yn caniatáu i chi adael gwefan Cofrestrfa Tir EM. Nid yw'r gwefannau cysylltiedig yn dod o dan reolaeth Cofrestrfa Tir EM ac nid yw Cofrestrfa Tir EM yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig neu unrhyw gyswllt sydd wedi'i gynnwys mewn gwefan gysylltiedig, neu unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau i wefannau o'r fath. Nid yw Cofrestrfa Tir EM yn gyfrifol am ddarlledu ar y we neu am unrhyw ffurf arall o drawsyrru o wefan gysylltiedig. Mae Cofrestrfa Tir EM yn darparu'r cysylltau hyn er hwylustod yn unig, ac nid yw cynnwys unrhyw gyswllt yn golygu bod Cofrestrfa Tir EM yn cymeradwyo'r wefan.

Mae'n bosib mai nodau masnach eu perchnogion yw enwau'r cwmnïau a'r cynhyrchion gwirioneddol a grybwyllir yma. Cedwir unrhyw hawliau na roddwyd caniatâd arbennig ar eu cyfer yma. Cysylltwch â copyright@landreg.gov.uk gyda chwestiynau neu broblemau, fel y bo'n briodol.

© 2001 Hawlfraint y Goron (Cofrestrfa Tir EM)